Canolfan Cymunedol Newydd yn Cael Caniatâd Cynllunio

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Canolfan Gymunedol £1m newydd Rhaglan wedi derbyn caniatâd cynllunio yn llwyddiannus. Diolch yn fawr i’n holl bartneriaid, cefnogwyr a gwirfoddolwyr i helpu ni gyrhaedd hanner ffordd yn y prosiect chwe blynedd.

Nôd y ganolfan yw i ddarparu adeilad parhaol ar gyfer gweithgareddau cymunedol yn y pentref, yn ogystal â gwella mynediad i wasanaethau. Gwnaeth adborth a syniadau’r drigolion lleol helpu creu’r dyluniad terfynol, a gydlynir gan ein gwirfoddolwyr.

Cynhyrchodd penseiri o Sir Fynwy Hall + Bednarczyk dyluniad sy’n anelu at gydbwyso dylunio arloesol yn sensitif ac yn gost effeithiol o fewn gosodiad pentref traddodiadol Rhaglan. Cafodd caniatâd cynllunio i’w rhoi i’r prosiect gan Gyngor Sir Fynwy.

Dywedodd ein Cadeirydd, Chris Butler-Donnelly: “Rydym yn falch iawn i gyflawni’r garreg filltir hon. Mae angen yr adeilad cymunedol yma i greu cyfleusterau parhaol i bawb yn y gymuned leol i’w rhannu.

“Mae caniatâd cynllunio yn nodi’r pwynt hanner ffordd yn ein cynllun chwe blynedd i wella’r gwasanaethau cymunedol yn Rhaglan ac yn dod a ni gam yn nes at lleoliad lleol amlbwrpas deniadol.

“Bydd cael cyfleusterau cyfoes yn gwneud gwahaniaeth mawr i drigolion Rhaglan a’r ardaloedd cyfagos. Bydd amrywiaeth ehangach o ddigwyddiadau a gwell mynediad at wasanaethau o fudd mawr i bobl a busnesau lleol.

“Mae’r ganolfan yn brosiect lleol ac ni fyddem wedi cyrhaedd y pwynt yma heb gefnogaeth ein partneriaid, gwirfoddolwyr a’r gymuned ehangach. Diolch yn fawr iawn i bawb, gan gynnwys y Gronfa Loteri Fawr am wobrwyo eu grant datblygu cyfalaf hael, ac i Gyngor Sir Fynwy am eu cefnogaeth parhaus.

“Ein ffocws yn awr yw sicrhau cyllid datblygu cyfalaf ar gyfer adeiladu’r Ganolfan Gymunedol. Mae’n gyfnod cyffrous i Rhaglan, felly os hoffech chi gymryd rhan, yna cofiwch gysylltu â ni. Mae ein cymuned wrth wraidd y prosiect hwn, rydym ni i gyd yn wirfoddolwyr ac am iddo fod yn rhywbeth y gall pawb ei fwynhau am genedlaethau i ddod. ”

Darllenwch fwy am gynllun y Ganolfan Gymunedol.

Mae’r broses cynllunio a dylunio wedi ei ariannu gan Gronfa Loteri Fawr (Pawb a’i Le) a grant datblygu cyfalaf o £ 47,904, a wobrwyd i Gymdeithas Neuadd Bentref Rhaglan yn 2016. Gwnaeth syrfewyr meintiau Adams Fletcher a’u Partneriaid a phenseiri Hall + Bednarczyk helpu i sicrhau bod datblygiad y dyluniad yn gost effeithiol.

Bydd y cynlluniau terfynol a’r caniatâd cynllunio yn ffurfio sail cyflwyniadau pellach i’r Loteri Fawr, ac i gyllidwyr eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Unwaith y bydd cyllid wedi’i sicrhau, bydd hen safle Ysgol Iau Rhaglan yn cael ei drosglwyddo gan Gyngor Sir Fynwy i Gymdeithas Neuadd Bentref Rhaglan a gall y gwaith adeiladu ddechrau.

Leave a Reply

Your e-mail address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.