Mae ein cynllun Canolfan Gymunedol wedi symud tuag at ganiatâd cynllunio ar ôl ymgynghoriad lleol.
Nôd y ganolfan yw darparu cartref pwrpasol, parhaol ar gyfer gweithgareddau cymunedol yn y pentref, yn ogystal â gwella mynediad at wasanaethau.
Diolch yn fawr i bawb sydd wedi rhannu syniadau, arbenigedd ac adborth ar ein hymgynghoriadau, cyfarfodydd a digwyddiadau codi arian. Mae eich cyfraniad wedi bod yn amhrisiadwy a ni fyddem wedi cyrraedd y cam hwn heb eich cefnogaeth.
Cynhyrchwyd ein dyluniad terfynol gan penseiri o Sir Fynwy Hall + Bednarczyk sydd wedi ei ysbrydoli gan ein hamgylchedd lleol yn ogystal ac eich barn a’ch syniadau.
Nôd y cynllun yw sicrhau cydbwysedd rhwng dylunio cyfoes sensitif ac effeithiolrwydd cost o fewn ein lleoliad pentref traddodiadol. Mae’r cynnig wedi’i gyflwyno i Gyngor Sir Fynwy am ganiatâd cynllunio a disgwyliwyd y canlyniad yn gynnar yn yr hâf 2017.
Mae’r lluniadau pensaernïol yn cynnwys tô crwm a ysbrydolwyd gan sguboriau amaethyddol ein hardal, mae ganddo ddyluniad smart ac awyrog, llachar a modern. Mantais ychwanegol yw gan fod proffil ychydig yn is gan y tô bydd yn llai costus i’w wresogi.
Mae’n bwysig bod yr adeilad yn gweithio ar gyfer ein cymuned gyfan, felly ystafelloedd ar ddwy lefel sydd wedi cael eu cynllunio yn fedrus i wneud y gorau o’r gofod, gan greu yn llwyfan ac ardaloedd ar wahân ar gyfer dosbarthiadau, grwpiau a gweithgareddau.
Bydd y fynedfa i’r adeilad yn cynnwys caffi cymunedol a bydd hefyd le i swyddfeydd ychwanegol i ddarparwyr gwasanaethau.
Mae’r broses gynllunio a dylunio wedi ei ariannu gan ein grant datblygu o’r Loteri Fawr (Pawb a’i Le) o £ 47,904, a ddyfarnwyd yn 2016. Syrfewyr Meintiau Adams Fletcher & Partners sydd wedi helpu i sicrhau bod datblygu’r dyluniad wedi bod yn gost effeithiol.
Bydd y cynlluniau terfynol a’r caniatâd cynllunio yn ffurfio sail cyflwyniadau pellach i’r Loteri Fawr, ac i gyllidwyr eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Unwaith y bydd cyllid wedi’i sicrhau, bydd hen safle Ysgol Iau Rhaglan yn cael eu trosglwyddo i ni gan Gyngor Sir Fynwy a gall adeiladu ddechrau.
Dywed Cadeirydd Cymdeithas Neuadd y Pentref yn Rhaglan, Chris Butler-Donnelly: ” Mae angen mawr am yr adeilad cymunedol cyffrous, cyfoes yma i greu cyfleusterau parhaol i bawb yn y gymuned leol i rannu.
“Bydd cael y cyfleusterau cyfoes a lleoliad deniadol, aml-bwrpas ar garreg ein drws yn gwneud gwahaniaeth mawr i drigolion Rhaglan a’r ardaloedd cyfagos. Bydd amrywiaeth ehangach o ddigwyddiadau a nifer gwell o wasanaethau o fudd mawr i bobl a busnesau lleol.
“Ni fyddem wedi gallu cyrraedd y garreg filltir bwysig hon heb gymorth a chefnogaeth parhaus y trigolion, gwirfoddolwyr a phartneriaid lleol, gan gynnwys Cyngor Sir Fynwy a Loteri Fawr. Roedd yn bwysig i ni bod cymaint o’n gymuned â phosibl yn cymryd rhan yn y cynllun, ac rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd syniadau ac awgrymiadau.”